Ceffylau blaen y diwydiant yn hynod falch o’r cyhoeddiad am SOUNDTRACK!

12th May 2008

Mai 12fed, 2008

Daeth Asiantaeth Ffilm Cymru a goreuon diwydiant ffilmiau a cherddoriaeth Cymru at ei gilydd heddiw i ddathlu digwyddiad lansio'r ŵyl ffilm a cherddoriaeth ryngwladol gyntaf un i Gymru.

Cafodd y derbyniad lansio tra amlwg ar gyfer SOUNDTRACK ei lywyddu gan Weinidog Treftadaeth Cymru, Rhodri Glyn Thomas, a'i gynnal yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd. Roedd yn gyfle gwych i gyflwyno'r digwyddiad diwylliannol trawiadol i'r gynulleidfa a oedd yn cynnwys gwneuthurwyr ffilmiau a cherddorion enwog a'r cyfryngau hefyd.

Peter Edwards yw Prif Weithredwr Asiantaeth Ffilm Cymru ac fe eglurodd yr hyn y byddai'r digwyddiad unigryw yn ei gynnig i Gymru, gan ddweud: "Bydd SOUNDTRACK yn rhoi amlygrwydd i ddiwydiant ffilm a cherddoriaeth Cymru. Yn wir, rydym yn gobeithio'n fawr iawn y bydd yr ŵyl hon yn dod â manteision go iawn, hir eu parhad, i ddiwydiant ffilm a cherddoriaeth Cymru. Bydd y gynulleidfa yn un ryngwladol ac felly bydd y cynnwys yn arloesol a diddan a bydd yn denu'r diwydiant a'r cyhoedd fel ei gilydd."

 Peter Edwards & Rhodri G Thomas

go back to all news

Sign-up

Keep up-to-date with what's happening at the Film Festival by joining our mailing list.


Visit our Mailing List section and enter your details...

Latest news

Waiting for Superman Trailer

May 24th, 2010 Some do get left behind

Cyrus Trailer

May 21st, 2010 Jonah Hill & John C Reilly Swap Hair Do’s

Countdown to Zero Trailer

May 20th, 2010 Ban the Bomb!

Key Partners/Partneriaid Allweddol:

Film Agency for WalesPush4 GroupWelsh Assembly GovernmentMajor Events UnitArts Council of WalesCapital Region TourismCineworld CinemasChapter Arts Centre